top of page
Ross O'Keefe

Cyflogi ymgeisydd anghonfensiynol

Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi newid y ffordd yr awn ati i weithio a chyflogi. Yn sgil prinder sgiliau a blaenoriaethau newidiol y farchnad, rhaid i gyflogwyr addasu'r modd yr ânt ati i recriwtio. Wrth inni ddelio ag effeithiau'r pandemig, mae'r cwmnïau mwyaf ystwyth yn ystyried dulliau amgen er mwyn ceisio bod yn fwy cystadleuol. Un opsiwn gwerthfawr yw cyflogi ymgeiswyr y gellid ystyried eu bod, yn ôl yr hen arfer, yn ymgeiswyr 'anghonfensiynol'.


Ymgeisydd nad yw'n ffitio'r mowld traddodiadol - dyna yw ymgeisydd anghonfensiynol. Fel arfer, caiff ei ddiystyru gan nad yw ei broffil yn cyd-fynd â'r delfryd hirsefydlog. Eto i gyd, efallai'n wir fod ymgeiswyr anghonfensiynol yn meddu ar y sgiliau iawn ar gyfer y swydd, hyd yn oed os nad ydynt yn meddu ar brofiad penodol yn y sector, felly rhaid i reolwyr cyflogi herio'u disgwyliadau arferol er mwyn iddynt allu penodi rhywun rhagorol, os annisgwyl.


A dyma lle gall cwmni Chwilio Gweithredol fel Goodson Thomas ychwanegu gwerth at eich strategaeth recriwtio, a hynny oherwydd ein harbenigedd mewn cael gafael ar ddarpar ymgeiswyr annodweddiadol. Mae gennym lwyddiant blaenorol o gyflwyno ymgeiswyr 'amgen' i'n cleientiaid, a gallwn dystio bod cyflogi rhywun 'anghonfensiynol' yn esgor ar y manteision hollbwysig a ganlyn:



1. Mae ymgeiswyr anghonfensiynol yn meddu ar sgiliau trosglwyddadwy


Yn ôl pob tebyg, mae ymgeiswyr sy'n dilyn llwybr gyrfa anghonfensiynol wedi meithrin sgiliau trosglwyddadwy sydd yr un mor berthnasol i un maes ag ydynt i faes arall. Gan fod natur ein gwaith yn newid, rhaid i gwmnïau edrych y tu hwnt i gymwysterau, dyfarniadau a thrywyddau traddodiadol.


Dylid ystyried bod ymgeiswyr â llwybrau gyrfa anghonfensiynol yn asedau. Fel arfer, maent yn fwy parod i dderbyn newid a byddant wedi hogi ac addasu eu dull mewn gwahanol ddiwylliannau sefydliadol. O'r herwydd, mae'n debygol y byddant yn meddu ar 'sgiliau meddal' y mae cryn alw amdanynt, megis cyfathrebu, trefnu, datrys problemau ac arwain prosiectau - sgiliau sy'n hanfodol er mwyn cyflawni gwaith yn llwyddiannus.


Gallwch ddysgu gwybodaeth dechnegol ynghynt o lawer nag y gallwch ennill profiad.



2. Hyrwyddo amrywiaeth


Gall chwilio am ymgeiswyr anghonfensiynol a chanddynt brofiadau amrywiol fod yn ffordd ddynamig o wella amrywiaeth o fewn eich gweithlu. Weithiau, mae llwybrau gyrfa anghonfensiynol yn deillio o beidio â rhoi mynediad at ysgolion a rhaglenni hyfforddi i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, felly rhaid i'r grwpiau hynny ennill gwybodaeth a phrofiad proffesiynol yn y gwaith.


Mae ymgeiswyr anghonfensiynol yn cynnig amrywiaeth eang o safbwyntiau a syniadau, a gall hyn ysgogi arloesi. Trwy roi ystyriaeth briodol i ymgeiswyr anghonfensiynol yn ystod y broses gyflogi, bydd modd i'ch sefydliad elwa ar gronfa dalent gyfoethog ac amrywiol, ynghyd â'r holl fanteision cysylltiedig.


Gall gweithwyr â chefndiroedd annodweddiadol ddelio â sefyllfaoedd mewn modd amlochrog a chyfrannu at feysydd a aiff y tu hwnt i gwmpas eu cylch gwaith. Po fwyaf amrywiol fydd eich tîm, po fwyaf yw'r siawns y bydd aelodau'r tîm hwnnw yn esgor ar syniadau annisgwyl ac yn cynnig atebion i broblemau nad oeddech yn ymwybodol ohonynt hyn yn oed, a hefyd byddant yn cynrychioli eich cwsmeriaid a'ch cleientiaid yn well.



3. Creu cysylltiadau gwell â chwsmeriaid


Mae eich cwsmeriaid yn amrywiol - rheswm da dros sicrhau bod eich gweithlu hefyd yn amrywiol. Gallai ymgeisydd nad yw'n meddu ar y cymwysterau 'iawn', ond sy'n meddu ar brofiad proffesiynol mewn swydd arall, fod mewn sefyllfa berffaith i uniaethu â materion sy'n peri problemau i gwsmeriaid, a hynny oherwydd ei brofiad ymarferol, personol.


Ychwaith, ni ddylid diystyru ymgeiswyr sydd wedi cymryd seibiant gyrfa. Os ydynt wedi treulio amser yn yr un mannau â chwsmeriaid, ac os ydynt hefyd yn siarad iaith dramor, gallent gynnig elfen gystadleuol i'ch cwmni. Byddai hyn o fudd i gwmni rhyngwladol a chanddo sylfaen cwsmeriaid amrywiol. Hefyd, mae ymgeiswyr o'r fath yn fwy tebygol o ystyried eu llesiant eu hunain - rhywbeth sy'n hollbwysig o ran cynnal gwaith o ansawdd da.



4. Lleihau gwariant a rhoi hwb i elw


Bydd llawer o gwmnïau ar wahân i'ch cwmni chi yn chwilio am yr 'ymgeisydd delfrydol', ac fe allai hynny gostio'n ddrud i'ch cwmni chi wrth drafod cyflogau os byddwch yn ceisio cynnig telerau gwell na chwmnïau eraill. Trwy beidio â gosod cynifer o gyfyngiadau ar gymwysterau ac ati, bydd modd ichi ehangu'r gronfa dalent a chynnwys pobl nad ydynt, efallai, yn meddu ar gymwysterau nodweddiadol, ond a allai feddu ar y sgiliau a'r ysgogiad i gyflawni'n llwyddiannus. Byddai cyflogi ymgeisydd o'r fath yn costio llai ichi na phe baech yn cyflogi'r ymgeisydd perffaith - wedi'r cwbl, nid yw'r 'ymgeisydd perffaith' yn bodoli.


Efallai y bydd dewis yr opsiwn diogel yn golygu y byddwch yn colli'r opsiwn gorau.


Yn naturiol, ni fyddwch eisiau mentro gormod ar rywun anghonfensiynol. Ond efallai y bydd ystyried rhywun â phroffil gwahanol, nad yw'n meddu ar yr holl arbenigedd technegol, yn risg sy'n werth ei chymryd. Yn ôl pob tebyg, bydd hyn yn ehangu golygon eich cwmni.


Cofiwch, mae gweithlu amrywiol yn cyflawni'n well, mae'n fwy arloesol ac mae'n cynhyrchu mwy o refeniw.


Mae Goodson Thomas, a leolir yn Ne Cymru, yn gwmni Chwilio Gweithredol sy'n penodi ymgeiswyr i swyddi lefel uchel. Os hoffech gael rhagor o gyngor neu gymorth ynglŷn â dod o hyd i ymgeiswyr anghonfensiynol, cysylltwch â ni yma.

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page