Mae Goodson Thomas, cwmni chwilio gweithredol dwyieithog sydd wedi’i leoli yng Nghymru yn nodi ei 10fed pen-blwydd gyda lansiad Penodi, cangen newydd o’r busnes sy’n ymroddedig i recriwtio rolau iaith Gymraeg.
Mae Goodson Thomas, sy’n cael ei gydnabod am ei waith o benodi rolau gweithredol ac anweithredol ar draws sectorau amrywiol yng Nghymru, bellach yn cynnig gwasanaeth newydd recriwtio wedi’i deilwra ar gyfer swyddi lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol.
Nod Penodi yw helpu sefydliadau i benodi ymgeiswyr Cymraeg o safon uchel. Bydd y gangen newydd yn cydweithio â phartneriaid ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i adeiladu gweithlu dwyieithog, gan ganolbwyntio ar rolau hyd at lefel rheolwyr.
I gyflawni hyn, bydd tîm Penodi yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio sy’n gwneud y mwyaf o gyrhaeddiad eang ac arbenigedd y cwmni wrth ddod o hyd i dalent o’r radd flaenaf.
Dywedodd Ross O’Keefe, Cyfarwyddwr Penodi a Goodson Thomas:
“Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am y gwasanaeth hwn gan gleientiaid presennol a sefydliadau newydd sydd ag uchelgais i feithrin gweithlu sy’n siarad Cymraeg. Mae llawer wedi ymrwymo i gyflawni eu dyletswyddau o dan Safonau’r Gymraeg ac yn blaenoriaethu llenwi rolau sy’n gofyn am siaradwyr Cymraeg."
“Bydd ein gwasanaeth yn helpu’r sefydliadau hyn i asesu gallu ymgeiswyr yn y Gymraeg ac yn annog y rhai sydd â diffyg hyder yn eu sgiliau i ymgeisio am swyddi lle gallant dderbyn cymorth i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.”
Yn ogystal â phartneru â sefydliadau, bydd Penodi hefyd yn cefnogi ymgeiswyr i ddatblygu eu gyrfaoedd trwy eu helpu i gyflwyno’u hunain yn effeithiol ar gyfer rolau sy'n gofyn am hyfedredd yn y Gymraeg.
Rhannodd Catrin Taylor, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr yn y cwmni, y cynlluniau ehangach i ddathlu 10 mlynedd mewn busnes:
“Mae lansiad Penodi yn rhan o gyfres o weithgareddau eleni i nodi pen-blwydd Goodson Thomas yn 10 oed. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi partneriaeth newydd, gan ddod yn Hyrwyddwr Busnes ar gyfer rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a fydd yn cynnwys comisiwn newydd sbon o’r enw Hylas. Mae CDCCymru yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru fodern sy'n canolbwyntio ar arweinyddiaeth gref, datblygu talent, creadigrwydd a rhagoriaeth.
“Mae eleni yn gyfle gwych i ni ddiolch i’r rhai sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd, agor drysau i bartneriaethau newydd, a chadarnhau ein lle ym byd busnes Cymru.”
Comments