top of page

Mae gwaith Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cwmpasu ystod eang o faterion yn Eryri, gan gynnwys gwella a gwarchod tirwedd unigryw, adfer natur, ymateb i newid hinsawdd, darparu cyfleon i fwynhau gwerthoedd arbennig Eryri a rheoli effeithiau ymwelwyr, ac maen nhw nawr yn chwilio am Brif Weithredwr newydd.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n gartref i dros 26,000 o drigolion ac yn denu bron i 4 miliwn o ymwelwyr unigryw y flwyddyn, yn enwog am ei harddwch naturiol syfrdanol, gan gynnwys copaon uchel, dyffrynnoedd tawel, arfordir eang a chyfleoedd hamdden helaeth.

Bydd y Prif Weithredwr newydd yn darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig, cyfeiriad strategol, a chyngor arfer gorau i sicrhau bod swyddogaethau statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol o fewn fframwaith o bartneriaeth rhanddeiliaid, trylwyredd deddfwriaethol, rheoli perfformiad, a chraffu gwleidyddol. Fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, bydd y Prif Weithredwr yn sicrhau’r defnydd gorau posibl o adnoddau dynol ac ariannol i gyflawni nodau ac amcanion yr Awdurdod.

Bydd y cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys gweithredu fel y prif gynghorydd polisi, gan ddatblygu polisïau statudol a sefydliadol o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd â phwrpasau yr Awdurdod a gofynion rhanddeiliaid.
​​​​​​​
Mae’r Awdurdod yn chwilio am arweinydd a fydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth weithredu tri chynllun statudol sef y Cynllun Rheolaeth (Cynllun Eryri), y Cynllun Datblygu Lleol a’r Datganiad Llesiant, sydd gyda’i gilydd yn amlinellu gweledigaeth a blaenoriaethau canolig a hirdymor yr Awdurdod. Mae'r cynlluniau hyn yn cael eu datblygu drwy ymgynghoriadau helaeth sydd yn pwysleisio cyfranogiad partneriaeth a chymunedol i gyflawni ein nodau strategol.

Mae rhuglder yn y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon.

I drafod yn anffurfiol ac i gael copi o Becyn yr Ymgeisydd, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu gwybodaeth@goodsonthomas.com.

I wneud cais, cyflwynwch ffurflen gais Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi’i chwblhau, gan ychwanegu’r ffurflen at yr adran CV drwy wefan Goodson Thomas, os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau: Canol dydd, 30 Gorffennaf 2024
Sgyrsiau pellach rhwng Goodson Thomas a'r ymgeiswyr sydd wedi eu gosod ar y rhestr hir: 15 Awst 2024 – 22 Awst 2024
Dyddiad y cyfweliad: 2 Hydref 2024


Cydnabyddir pob cais.

Gweithredol

£87,717 - £101,775

Penrhyndeudraeth, Gwynedd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Prif Weithredwr

Please compete this form to help us and our client monitor the diversity of our candidates. We encourage full disclosure, however we do recognise that some people may prefer not to disclose all or some of their personal data - in which case, please feel free to select "Prefer not to say".

The details you provide will be treated by us and our client as anonymous, private & confidential information.

This data will be aggregated and will only be used strictly for equal opportunities monitoring and reporting purposes.

Some of the questions and categories used include those recommended by the Equality and Human Rights Commission, UK census and the HESA, as best practice.

If you have any queries or questions about this form, then please contact us.

Equality, Diversity and Inclusion Monitoring

Upload
Upload

Goodson Thomas wants to ensure that all applicants are treated equally whatever their race, colour or ethnic origin. To do this we need to know about the ethnic origin of people who apply to join us. Which group do you most identify with?

Do you consider yourself to have a disability? A disabled person is defined under the Equality Act 2010 as someone with a 'physical or mental impairment which has a substantial and long term adverse effect on that person's ability to carry out normal day-to-day activities'.

Uploading file 1 of 2

Apply Now

bottom of page